TYSTIOLAETH
YSGRIFENEDIG LLYWODRAETH
CYMRU I’R
PWYLLGOR MENTER
A BUSNES -
MASNACH A
MEWNFUDDSODDI
RHAGARWEINIAD
- Mae budd
economaidd i Gymru yn gyrru agenda ryngwladol Llywodraeth Cymru.
Mae masnach a mewnfuddsoddi, twristiaeth a denu myfyrwyr Addysg
Uwch rhyngwladol i gyd yn yrwyr ar gyfer ein heconomi. Mae ein
gweithgarwch yng Nghymru a thramor i adeiladu ein proffil a’n
henw da i gyd wedi’u bwriadu i ddarparu llwyfan i alluogi
cwmnïau a sefydliadau Cymru i fanteisio ar gyfleoedd wrth
iddynt ymddangos.
- Mae gwneud
cwmnïau yng Nghymru yn fwy rhyngwladol a denu buddsoddi o'r tu
allan i Gymru yn cynnwys nifer o chwaraewyr o fewn Llywodraeth
Cymru yn Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ac Adran y
Prif Weinidog. Mae'r tîm, fodd bynnag, yn ehangach na hynny,
ac yn cynnwys partneriaid megis Adrannau eraill o fewn Llywodraeth
Cymru, gan gynnwys yr Adran Addysg a Sgiliau, Masnach a Buddsoddi y
DU, awdurdodau lleol, siambrau masnach, ymgynghorwyr a
chontractwyr, asiantau eiddo a chwmnïau gwasanaethau
proffesiynol.
- Yr ymdrech yma ar
y cyd sydd wedi ein galluogi i wella'r effaith a gawn a’n
canlyniadau o fasnach a mewnfuddsoddi.
STRWYTHURAU
- Mae tîm
penodedig masnach a mewnfuddsoddi Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a
Thrafnidiaeth yn darparu ffocws
strategol a chydlyniant; darparu cyngor a chymorth i dimau sector a
thimau tramor Llywodraeth Cymru; ymateb i bob ymholiad newydd o
linell gymorth uniongyrchol a gwefan Buddsoddi Uniongyrchol
Tramor, cydlynu
datblygiad cynnig Buddsoddi Uniongyrchol
Tramor ar draws y sector;
ymgymryd â chynhyrchu arweiniad; cynnal ymchwil i
farchnadoedd rhoddwyr tramor a chwmnïau Buddsoddi Uniongyrchol
Tramor, rheoli'r holl
raglenni cymorth masnach gydag incwm a gwariant cysylltiedig, a
darparu cymorth masnach uniongyrchol i gwmnïau.
- Gan weithio ochr
yn ochr â'r tîm Masnach a Buddsoddi, mae timau
sector yr
Economi, Gwyddoniaeth a
Thrafnidiaeth yn
meddu adnodd sy'n ymgysylltu â mewnfuddsoddwyr, newydd a
phresennol, a chyda chwmnïau yng Nghymru sy'n dymuno masnachu
tramor. Eu rôl yw arwain ar reoli perthynas busnesau
cytunedig sy'n eiddo tramor yng Nghymru, adnabod a chyflwyno
prosiectau newydd ac ailfuddsoddi, arwain ar deithiau masnach ac
arddangosfeydd sector penodol a darparu cefnogaeth masnach i
fusnesau.
- Mae ein swyddfeydd
a’n timau tramor yn rhan o swyddfa'r Prif Weinidog. Mae
ganddynt ffocws masnach a buddsoddi ac maent yn gyfrifol am adnabod
cyfleoedd buddsoddi tramor uniongyrchol newydd ar gyfer Cymru ac
adnabod a chefnogi cyfleoedd masnach. Mae gan y timau tramor gylch
gwaith ehangach o ran hyrwyddo buddiannau Cymru yn gyffredinol lle
y bo'n briodol ac o fewn yr adnoddau sydd ar gael - cysylltiadau
llywodraeth i lywodraeth, twristiaeth, addysg, diwylliant. Mae
Swyddfa Llywodraeth Cymru yn Llundain, sydd hefyd yn rhan o
swyddfa'r Prif Weinidog, yn gyfrifol am adnabod a helpu i sicrhau
buddsoddiad o Lundain a de ddwyrain Lloegr, boed hynny'n gyfleoedd
a gynigir gan gwmnïau Prydeinig neu gan fuddsoddwyr tramor
sydd eisoes wedi buddsoddi yn Llundain neu dde ddwyrain
Lloegr.
ADNODDAU
- Mae gan y
tîm Masnach a Buddsoddi chwech ar hugain aelod o staff gyda
chyllideb o £2.142 miliwn ar gyfer 2013/14. Er nad yw'n
bosibl gwahanu'r gyllideb o fewn timau sector, sy’n rhan
annatod o lwyddiant masnachu a mewnfuddsoddi, mae gan swyddogion o
fewn y timau hynny y profiad angenrheidiol i weithio gyda
mewnfuddsoddwyr a chyda chwmnïau sy’n dymuno bod yn fwy
rhyngwladol. Maent yn gweithio gyda mewnfuddsoddwyr a chyda
chwmnïau cynhenid er mwyn darparu ein hamrediad
o fesurau i gefnogi datblygiad economaidd.
- Yn swyddfa
Llundain, mae 4 aelod yn canolbwyntio ar fasnach a buddsoddi. Mae
swyddfeydd Llywodraeth Cymru dramor a'r swyddfa yn Llundain, er bod
ganddynt swyddogaeth gynrychioliadol ehangach, yn canolbwyntio ar
fasnach a buddsoddi. Mae gan Lywodraeth Cymru gynrychiolaeth yn
Shanghai, Beijing, Chongqing, Efrog Newydd, Chicago, San Francisco,
Washington, Tokyo, Dubai, Bangalore, Mumbai, Delhi Newydd, Dulyn a
Brwsel gyda chyfanswm staff o 35. Fodd bynnag, mae 10 o'r staff ym
Mrwsel yn canolbwyntio ar faterion polisi yr UE.
- Rydym yn ymgymryd
ag ystod o weithgareddau diplomyddiaeth gyhoeddus er mwyn codi
proffil Cymru dramor, gan gynnwys gweithio gyda llywodraethau
tramor, Cenhadaeth y DU a sefydliadau diwylliannol allweddol yng
Nghymru. Mae hyn yn rhoi llwyfan ar gyfer gweithgarwch sy’n
meddu mwy ffocws o gwmpas amcanion mwy penodol megis masnach a
buddsoddi. Mae gan Adran Farchnata yr Economi, Gwyddoniaeth a
Thrafnidiaeth, gan weithio â'r tîm Masnach a Buddsoddi
a'r timau sector, hefyd swyddogaeth allweddol o ran sicrhau bod gan
Gymru ddigon o welededd dramor drwy ddarparu cymorth cyfatebol
cyfredol a phriodol. Rydym hefyd yn ymwybodol iawn o'r rôl y
gall ac y mae Masnach a Buddsoddi y DU
yn ei chwarae wrth adnabod a helpu i sicrhau buddsoddiad o'r
tu allan i Gymru. Yn hyn o beth mae'r berthynas sydd gan swyddogion
Llywodraeth Cymru â Masnach a Buddsoddi y DU
yn y Deyrnas Unedig a thramor yn allweddol. Gan gydnabod hyn,
rydym yn falch bod dau swyddog ar leoliad o Masnach a Buddsoddi y DU
wedi gweithio gydag Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth y
llynedd.
EFFEITHIOLRWYDD
- Roedd canlyniadau
buddsoddi mewnol yn 2012/13
yn dangos gwelliant sylweddol ar y flwyddyn flaenorol o ran
prosiectau a’r swyddi a sicrhawyd. Cyflawnwyd y gwelliant hwn
yn erbyn cefndir o ganolbwyntio ymdrechion gan Weinidogion a
swyddogion ac rydym yn hyderus y byddwn yn parhau i weld gwelliant
pellach yn 2013/14.
- Mae’r
gystadleuaeth ar gyfer mewnfuddsoddi yn ffyrnig. Mae globaleiddio
ac agor marchnadoedd sy'n datblygu a marchnadoedd a fu’n
gaeedig yn y gorffennol wedi golygu bod gan mewnfuddsoddwyr llawer
mwy o ddewis. Mae ailffocysu Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a
Thrafnidiaeth a ddigwyddodd beth amser yn ôl, oedd yn
cydnabod gwerth tyfu mewnfuddsoddwyr presennol a denu
mewnfuddsoddwyr newydd ochr yn ochr â thyfu cwmnïau
cynhenid, yn golygu ein bod mewn sefyllfa dda i
barhau i fod ar ein hennill. Sicrhawyd y rhan fwyaf o'n llwyddiant
yn 2012/13 drwy ailfuddsoddi gan fuddsoddwyr tramor uniongyrchol
presennol yng Nghymru ac, er y byddwn yn parhau i sicrhau
llwyddiant yn y maes hwnnw, byddwn hefyd yn chwilio a cheisio
buddsoddiad gan gwmnïau newydd i Gymru.
- Yn ddiweddar,
rydym wedi cynyddu ein presenoldeb mewn marchnadoedd tramor gyda
chynrychiolaeth ym Mrwsel, Dulyn, Chicago a San Francisco, a bwriad
hyn i gyd yw cyflenwi mwy o ganlyniadau ar gyfer Cymru.
- Mae'n stori debyg
o ran cynorthwyo cwmnïau yng Nghymru i fod yn fwy rhyngwladol.
Rydym yn defnyddio ystod o ymyriadau er mwyn a) codi lefelau
ymwybyddiaeth mewn cwmnïau o fanteision masnach ryngwladol; b)
gweithio'n uniongyrchol gyda chwmnïau i nodi cyfleoedd
masnachu ar gyfer eu cynnyrch a'u gwasanaethau dramor; c) helpu
cwmnïau i ddod o hyd i gyfleoedd a chwsmeriaid posibl mewn
marchnadoedd tramor a d) cefnogi cwmnïau i deithio i
farchnadoedd tramor er mwyn datblygu busnes newydd a mynychu sioeau
masnach.
- Mae’r
ymyriadau yn cynnwys: cymorth Datblygu Masnach Ryngwladol; cefnogi
Cyfleoedd Masnach Ryngwladol; cefnogi Ymweliadau Datblygu Busnes
Tramor ac arddangosfeydd a theithiau masnach. Mae'r Tîm
Masnach a Buddsoddi yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth hefyd
yn helpu cwmnïau i gael gafael ar wasanaethau cymorth
gan Masnach a
Buddsoddi y DU. Yn 2013/14,
cafodd rhaglen o tua 40 o deithiau masnach dramor ei rhedeg ac
ymysg ein cynlluniau ar gyfer 2014/15 y mae rhaglen teithiau
masnach sy’n cynnwys 31 o ddigwyddiadau.
- Y mesur
perfformiad allweddol yw gwerth y busnes allforio newydd a
sicrhawyd gan y cwmnïau yr ydym wedi’u cefnogi. Y targed
ar gyfer 2013/14 yw £28 miliwn. Hyd at 14 Chwefror 2014,
sichrawyd gwerth £31.9 miliwn o archebion. Mae hyn yn cyfateb
i adennill £17 am bob £1 o wariant net y rhaglenni.
Mewn cymhariaeth, mae’r Alban wedi cyflawni adenillion o 13:1
ar ei buddsoddiad.
CASGLIAD
- Rydym yn cydnabod,
er mwyn aros yn gystadleuol, bod angen i ni fonitro ein
perfformiad, ystyried llwyddiant ein hymagwedd bresennol yn gyson,
ystyried marchnadoedd newydd, hyrwyddo Cymru mewn marchnadoedd
tramor a chynyddu'r stoc o fewnfuddsoddwyr yng Nghymru. Rydym wedi
mwynhau llwyddiant sylweddol o ran annog a helpu buddsoddwyr
presennol i ail-fuddsoddi yng Nghymru; cwmnïau fel Toyota,
Sony, Ford, Airbus ac mae llawer o gwmnïau eraill yn
buddsoddi’n aml yng Nghymru. Er hynny, rydym yn cydnabod bod
angen i ni gynyddu'r stoc o fewnfuddsoddwyr yng Nghymru, sy’n
golygu bod rhaid i ni gynyddu a sicrhau nifer y buddsoddiadau
newydd tra'n cynnal a thyfu ein buddsoddwyr presennol. Yn yr un
modd, rydym yn cydnabod bod angen i ni barhau i annog cwmnïau
yng Nghymru i ddod yn fwy rhyngwladol a defnyddio masnach
ryngwladol fel cyfrwng ar gyfer twf. Mae ein cefnogaeth yn darparu
cwmnïau â'r wybodaeth, y sgiliau a'r modd i gyrchu a
datblygu busnes mewn marchnadoedd newydd.
- Rydym wedi dangos
ein bod yn barod i fuddsoddi lle mae cyfle. Rydym wedi cynyddu
cynrychiolaeth ym Mrwsel i fanteisio ar y farchnad Ewropeaidd ac
rydym wedi sefydlu cynrychiolaeth newydd yn Chicago, San Francisco
a Dulyn. Byddwn yn parhau i adolygu ein presenoldeb dramor ac yn ei
addasu ble a phryd y barnwn fod hynny’n briodol
- Ofer yw gwneud
cymhariaeth gyda'r hen Awdurdod Datblygu Cymru, Masnach Cymru
Rhyngwladol a Busnes Rhyngwladol Cymru. Rydym bellach yn
gweithredu mewn amgylchedd economaidd sy'n wahanol iawn ac mae
tirwedd ddiwydiannol Cymru yn wahanol hefyd. Yr hyn sy’n
allweddol yw bod swyddogion masnach a mewnfuddsoddi penodedig yn
arbenigwyr sydd â thoreth o brofiad yn y meysydd hyn, profiad
y maent wedi'i ddysgu a'i ddatblygu yn y sectorau preifat a
chyhoeddus.
- Rydym yn
croesawu'r cyfle i drafod yr uchod ac ehangu arno pan fyddwn yn
cyfarfod y Pwyllgor.